P'un ai eich bod yn staff neu'n fyfyriwr ym Met Caerdydd - rydyn ni'n cynnig gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio ar eich cyfer chi.
Dangosiadau Ffilm
Os ydych chi am sgrinio ffilm at ddibenion addysgol neu gymdeithas yna gallwn eich helpu chi - llenwch ein
ffurflen
Myfyrwyr Met Caerdydd
Mae'n swyddogol - mae
myfyrwyr sy'n ymweld â'r llyfrgell yn cael gwell graddau! Os ydych chi'n astudio ar gyfer gradd Met Caerdydd yng Nghaerdydd neu'r ardal gyfagos, mae yna gyfoeth o adnoddau a gwasanaethau ar gael i chi yn nwy Ganolfan Ddysgu ardderchog y Brifysgol.
Cyngor Pynciol
Os nad ydych yn teimlo'n hollol hyderus ynglŷn â defnyddio ein hadnoddau, gallwch wneud apwyntiad gyda Llyfrgellydd Academaidd. Bydd y
Llyfrgellydd ar gyfer eich pwnc yn gallu eich helpu i gael y gorau o adnoddau'r llyfrgell ar gyfer eich pwnc trwy argymell testunau allweddol, eich helpu i chwilio am lenyddiaeth neu drwy ddarparu awgrymiadau a thriciau ar gyfer defnyddio un o'n cronfeydd data pwnc penodol.
Cyflenwi Dogfennau
Gall llyfrgelloedd Met Caerdydd roi mynediad i chi i bron i 300,000 o lyfrau a chyfnodolion print ac electronig, ond os oes angen i chi ddarllen rhywbeth nad oes gennym ni mewn stoc, gallwch chi gyflwyno cais am
Fenthyciad Rhwng Llyfrgelloedd.
Ar ôl i ni dderbyn eich cais, byddwn yn benthyg y llyfr neu'r erthygl o lyfrgell arall ar eich rhan a naill ai'n ei roi i chi yn bersonol neu'n e-bostio copi digidol atoch.
Casgliadau
Mae yna nifer o
gasgliadau gwych ar gael i chi ym Met Caerdydd. Yn ogystal â llyfrau, cyfnodolion a DVDs mae gan ein myfyrwyr fynediad i'r Ystorfa, y Casgliadau Arbennig ac amrywiaeth ddisglair o destunau electronig ac adnoddau delweddau.
Hyfforddiant
Mae ein Llyfrgellydd Academaidd yn cynnal sesiynau
hyfforddi rheolaidd sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu chi i gael y gorau o adnoddau a gwasanaethau'r llyfrgell.
MetSearch (Llyfrgell Electronig)
Gallwch gael mynediad i'n hadnoddau electronig trwy MetSearch.
Rydym hefyd yn cynnig Chwiliad Cyfnodolion ac A-Z Cronfeydd Data.
Sgiliau Academaidd
Mae'r Tîm Sgiliau Academaidd yn arbenigo mewn addysgu'r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddysgu'n annibynnol a ffynnu yn academaidd, beth bynnag yw'r pwnc. Ewch i wefan
Sgiliau Academaidd i wella’ch setiau sgiliau allweddol gan gynnwys meddwl yn feirniadol, cyflwyno, cyfeirio a dysgu annibynnol.
Defnyddio llyfrgelloedd eraill
Gall myfyrwyr israddedig Met Caerdydd ymuno â llyfrgelloedd
Prifysgol Caerdydd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Mae'r aelodaeth yn caniatáu i chi fenthyg 2 eitem.
I wneud cais, llenwch
ffurflen gais a dewch â hi i'r llyfrgell. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn llythyr o argymhelliad y bydd angen iddynt ei gyflwyno wrth ymuno â llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd neu RWCMD. Mae'r aelodaeth yn para hyd ddiwedd y flwyddyn academaidd gyfredol a gellir ei hadnewyddu.
Gall pob myfyriwr ymuno â
Chynllun Mynediad Sconul a chael mynediad at lyfrgelloedd academaidd eraill yn y DU. Cyflwynwch eich cais ar wefan
Sconul.
Staff Met Caerdydd
Gall holl staff Met Caerdydd fenthyg llyfrau. Os ydych chi'n newydd, ewch i lyfrgell eich campws ac fe drefnwn gyfrif i chi.
Gall tiwtoriaid masnachfraint, tiwtoriaid cyswllt, yr holl staff sy'n cael eu talu fesul awr, tiwtoriaid yr Academi Gelf a Chaerdydd Agored ymuno â'r llyfrgell fel 'Benthycwyr Cymunedol a Mwy' a chaniateir iddynt fenthyg 5 eitem ar y tro. Gellir adnewyddu eu haelodaeth yn flynyddol.
Gall holl staff eraill Met Caerdydd fenthyg hyd at 30 o eitemau ar unrhyw un adeg.
Gweler ein tudalen
Benthyca am ragor o wybodaeth.
MetSearch (Llyfrgell Electronig)
Gallwch gael mynediad i'n hadnoddau electronig trwy
MetSearch.
Rydym hefyd yn cynnig Chwiliad Cyfnodolion ac A-Z Cronfeydd Data.
Defnyddio Llyfrgelloedd Eraill
Mae Sconul Access yn caniatáu ichi ymuno a chael mynediad i lyfrgelloedd academaidd eraill yn y DU. Cyflwynwch eich cais ar wefan
Sconul.
Gofyn am Adnoddau
Os ydych chi am i'r llyfrgell brynu llyfrau, cyfnodolion neu adnoddau eraill i'ch myfyrwyr yna cysylltwch â'ch
Llyfrgellydd Academaidd ar gyfer eich pwnc.
Ac a oeddech chi'n gwybod ...
Gallwn ddarparu
hyfforddiant llyfrgell i gyd-fynd ag anghenion eich cwrs a'ch myfyrwyr.
Gallwn sicrhau bod penodau llyfrau ac erthyglau cyfnodolion allweddol ar gael i'ch myfyrwyr trwy eu
digido.
Gallwn archebu
benthyciadau rhwng llyfrgelloedd i chi os oes angen llyfr neu erthygl arnoch nad ydym yn eu stocio.
Gallwn archebu ystod eang o ddeunyddiau Darlledu AV trwy
TRILT i'w defnyddio wrth i chi addysgu. Defnyddiwch ein
Ffurflen Gais TRILT i archebu os gwelwch yn dda.
Mae gennym gyfoeth o
adnoddau delweddau i'w defnyddio yn eich addysgu.
Gallwn sicrhau bod eich ymchwil ar gael trwy ei gynnwys ar
Ystorfa ymchwil Met Caerdydd - figshare.
Mae gennym dîm ymroddedig sy'n darparu ystod o hyfforddiant
sgiliau academaidd.
Gallwn ddarparu
hyfforddiant TG i'ch helpu chi neu'ch myfyrwyr.
Gallwn helpu gyda'ch
e-bost,
ffonau,
meddalwedd cyfrifiadurol and
mwy.
Dysgwyr o Bell
Os ydych chi'n gweithio tuag at radd Met Caerdydd fel Dysgwr o Bell, efallai na fyddwch chi'n gallu ymweld â ni'n bersonol yn aml iawn. Nid ydym eisiau i rywbeth bach fel pellter eich atal rhag defnyddio'r llyfrgell, felly rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau ac adnoddau sydd wedi'u cynllunio'n benodol i gefnogi myfyrwyr Dysgu o Bell.
(Sylwch - dim ond y myfyrwyr hynny sydd wedi'u cofrestru fel dysgwr o bell gyda Met Caerdydd sy'n gallu cael mynediad at fenthyciadau post - yn anffodus, ni all myfyrwyr rhan-amser sy'n byw ymhell o'u campws ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ar hyn o bryd)
Benthyca
Gallwn bostio llyfrau ac erthyglau cyfnodolion i'ch cyfeiriad cartref heb unrhyw gost i chi. Dim ond pan fyddwch chi'n anfon llyfrau yn ôl atom ni y byddwch chi'n talu am y postio. Cymerwch gip ar ein tudalen
benthycai gael mwy o wybodaeth.
Cyflenwi Dogfennau
Ydych chi'n chwilio am rywbeth nad ydym yn tanysgrifio iddo neu y mae angen i ni gael gafael ar erthygl mewn cyfnodolyn rydych chi wedi'i darganfod ar-lein? Nid oes angen i chi edrych ymhellach na gwasanaeth
Cyflenwi Dogfennau. Cofrestrwch ar gyfer Uniongyrchol i'ch Bwrdd Gwaith a derbyn erthyglau y gofynnwyd amdanynt yn gynt trwy e-bost.
Sylwch: Yn anffodus, ar hyn o bryd, ni allwn gynnig ein gwasanaeth benthyciadau rhwng llyfrgelloedd i myfyrwyr wedi’u lleoli mewn sefydliadau Partner. Felly, dylai unrhyw geisiadau o’r natur hwn gael eu cyfeirio at eich llyfrgell sefydliadol lleol.
Cyngor Pynciol
IOs nad ydych yn teimlo'n hyderus wrth ddefnyddio adnoddau'r Llyfrgell ar gyfer eich astudiaethau, gallwch anfon e-bost at un o'r Llyfrgellwyr Academaidd. Bydd Llyfrgellydd eich pwnc yn gallu eich helpu i gael y gorau o adnoddau'r llyfrgell ar gyfer eich pwnc trwy argymell testunau allweddol, eich cyfeirio tuag at
e-gyfnodolion defnyddiol a rhoi awgrymiadau i chi
ar ddefnyddio ein cronfeydd data pwnc penodol.
MetSearch (Llyfrgell Electronig)
Gallwch gael mynediad i'n hadnoddau electronig trwy MetSearch.
Rydym hefyd yn cynnig Chwiliad Cyfnodolion ac A-Z Cronfeydd Data.
Myfyrwyr mewn Colegau Partner
Os ydych chi'n gweithio tuag at radd Met Caerdydd yn un o'n sefydliadau Partner, mae'n debyg na fyddwch chi'n gallu ymweld â ni'n bersonol yn aml iawn. Nid ydym eisiau i beth bach fel pellter eich atal rhag defnyddio'r llyfrgell, felly rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau ac adnoddau sydd wedi'u cynllunio'n benodol i gefnogi myfyrwyr nad ydynt yn lleol.
MetSearch (Llyfrgell Electronig)
Gallwch gael mynediad i'n hadnoddau electronig trwy MetSearch.
Rydym hefyd yn cynnig A-Z e-Gyfnodolion ac A-Z Cronfeydd Data.
Cyngor Pynciol
Os nad ydych chi'n teimlo'n hyderus wrth ddefnyddio ein hadnoddau ar gyfer eich astudiaethau, gallwch anfon e-bost at
Llyfrgellydd Academaidd.
Bydd Llyfrgellydd eich pwnc yn gallu eich helpu i gael y gorau o adnoddau'r llyfrgell trwy argymell testunau allweddol, eich cyfeirio tuag at
e-gyfnodoliondefnyddiol a rhoi awgrymiadau i chi ar ddefnyddio ein
cronfeydd data pwnc penodol.
Sgiliau Academaidd
Mae’r Tîm Sgiliau Academaidd yn arbenigo mewn addysgu’r sgiliau y mae eu hangen ar fyfyrwyr i ddysgu’n annibynnol a ffynnu’n academaidd, beth bynnag yw’r pwnc. Ewch i’r safle
Sgiliau Academaidd i’ch atgoffa o setiau sgiliau allweddol gan gynnwys meddwl yn gritigol cyflwyno, cyfeirio a dysgu annibynnol.
Staff mewn Colegau Partner
Os ydych chi’n aelod o staff sy’n gyfrifol am gyflwyno cyrsiau Met Caerdydd i fyfyrwyr y un o’n
Sefydliadau Partner,
mae’r llyfrgell yn cynnig ystod o wasanaethau ac adnoddau i gefnogi’ch addysgu.
Adnoddau Electronig
Gallwn gynnig mynediad i gasgliad helaeth o e-adnoddau i aelodau staff addysgu o Sefydliadau Partner Cydweithredol ar y ddealltwriaeth y bydd y mynediad hwn yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl i gefnogi cyflenwi cyrsiau Met Caerdydd. I gael mynediad at yr e-adnoddau, dewiswch (a gosod nod tudalen) ar y ddolen briodol isod:
Rhestr o e-adnoddau i staff wedi’u lleoli mewn Sefydliadau Partner Cydweithredol yn y DU
Rhestr o e-adnoddau ar gyfer staff wedi’u lleoli mewn Sefydliadau Partner Cydweithredol – byd-eang
Rydym hefyd yn cynnal cysylltiadau â thua 13,000 o e-gyfnodolion Mynediad Agored. Mae canllawiau ar ganfod a chael mynediad at e-gyfnodolion Met Caerdydd ar gael
yma.
Mae gan staff a gyflogir gan ein sefydliadau partner fynediad at gannoedd o e-lyfrau a gedwir ar y
Platfform Canolog eLyfr ProQuest.
Os oes cronfa ddata, e-lyfr neu e-gyfnodolyn y teimlwch chi fyddai’n arbennig o ddefnyddiol i’ch cefnogi i gyflenwi cyrsiau Met Caerdydd, rhowch wybod i ni trwy anfon e-bost at
electronicservices@cardiffmet.ac.uk.
Benthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd
Yn anffodus, ar hyn o bryd, ni allwn gynnig ein gwasanaeth benthyciadau rhwng llyfrgelloedd i staff wedi’u lleoli mewn sefydliadau Partner. Felly, dylai unrhyw geisiadau o’r natur hwn gael eu cyfeirio at eich llyfrgell sefydliadol lleol.
Cysylltiadau Defnyddiol
Ymholiadau Llyfrgell
Jamie Finch, Llyfrgellydd Rhyngwladol
jfinch@cardiffmet.ac.uk
Ymholiadau TG
Chris Evans, Cyswllt TG – Partneriaethau
ITLiaisonPartnership@cardiffmet.ac.uk