Mae Gwasanaethau Llyfrgell yn darparu ystod eang o hyfforddiant sydd wedi'i gynllunio i'ch helpu chi i gael y gorau o'n hadnoddau.
Edrychwch ar ein fideos cymorth cyflym
MetFlix gan y Gwasanaethau Llyfrgell a TG
Gallwch drefnu sesiynau unigol gyda'r
Llyfrgellydd Academaidd ar gyfer eich Ysgol os oes angen gwybodaeth bwrpasol benodol arnoch chi
Rydym hefyd yn cyflwyno nifer o gyrsiau hyfforddi trwy gydol y flwyddyn. Isod fe welwch ragor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael.
Cysylltwch â ni os oes angen mwy o help a chyngor arnoch.
Gweminarau a Gweithdau Ymarfer Academaidd
Unwaith eto rydym yn cynnal ein gweithdai ymarfer academaidd ar-lein poblogaidd i'ch helpu gyda'ch astudiaethau. Byddant yn eich tywys trwy rai sgiliau llyfrgell sylfaenol ac ymlaen i gynhyrchu ysgrifennu beirniadol. Ychwanegir digwyddiadau pellach wrth i ni symud trwy'r flwyddyn academaidd, ond i archebu'r rhai sydd ar gael ar hyn o bryd, ewch i
MetHub, lle mae sesiynau wedi'u rhestru o dan 'Gweithdy / darlith Gyffredinol' neu chwiliwch amdanynt o fewn 'Digwyddiadau' yn ôl teitl, neu ddefnyddiwch ‘Gweithdy Llyfrgell'.
Dysgu yn y Brifysgol: sut mae astudio ar lefel addysg uwch?
Bod yn Feirniadol: gwneud defnydd effeithiol o ffynonellau academaidd
Diffinio ysgrifennu academaidd: beth ydyw a sut ydych chi'n dechrau ei wneud?
Cyfeirio: pam ei fod yn bwysig a sut ydych chi'n ei wneud?
ChwilioMet Sylfaenol ar gyfer dod o hyd i ffynonellau o ansawdd
Sut i werthuso gwybodaeth
*Newydd* Cyflwyniad i Chwilio Llenyddiaeth
*Newydd* Offer rheoli cyfeiriadau: beth ydyn nhw a sut allan nhw eich helpu chi?
Bibliometreg ar gyfer ymchwilwyr
I gael mwy o wybodaeth am y gweithdai ar-lein hyn, gan gynnwys dolenni i MetHub i'w harchebu, ewch i'n
tudalennau sgiliau academaidd.