Leganto yw system rheoli rhestrau ddarllen newydd Met Caerdydd. Mae'n darparu ffordd effeithlon a hawdd i lunio a chyhoeddi rhestrau darllen. Wedi'i integreiddio'n llawn â MetSearch a Moodle, mae'n rhoi mynediad hawdd i fyfyrwyr at holl ddeunyddiau'r cwrs drwy un ryngwyneb.
Gyda Leganto, gallwch gydosod deunyddiau o bob math; llyfrau ac e-lyfrau, penodau llyfrau ar-lein neu ddigidol, erthyglau ysgolheigaidd, fideos, delweddau, adnoddau electronig ac unrhyw fath arall o ddeunydd, i greu rhestr ddarllen hyblyg a rhyngweithiol.
Mae fersiwn PDF o'r canllaw hwn ar gael
yma ac mae fideo defnyddiol ar sut i ddefnyddio Leganto ar gael isod:
Manteision i staff
- Hawdd i'w defnyddio ac mae'n caniatáu i chi gynnwys adnoddau o wahanol fformatau; o erthyglau cyfnodolion i lyfrau, penodau e-lyfrau a hyd yn oed ddeunyddiau amlgyfrwng
- Wedi'i integreiddio'n llawn â'r system rheoli llyfrgell fel y gallwch gynnwys dolenni uniongyrchol i ddeunydd ar MetSearch
- Yn ei gwneud hi'n haws cadw rhestrau darllen yn gyfredol a sicrhau bod y rhifynnau diweddaraf yn cael eu rhestru
- Dadansoddiadau ac adroddiadau ar gael er mwyn cael gwybodaeth am ddefnydd y ddeunyddiau ac addasu cynnwys cwrs yn unol â hynny
- Yn caniatáu i chi ddarparu cynnwys wedi'i ddigideiddio mewn ffordd sy'n cwrdd â gofynion cyfreithiol yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint
Manteision i fyfyrwyr
- Mynediad hawdd i holl ddarllen a deunyddiau cwrs mewn un man
- Mynediad uniongyrchol trwy Moodle
- Yn cynnwys dolenni uniongyrchol i MetSearch, gan ddarparu mynediad hawdd at adnoddau ar-lein yn uniongyrchol o'r rhestr
- Mae'n rhoi gwybodaeth am faint o gopïau print sydd gennym a ble i ddod o hyd iddynt yn y llyfrgell
- Mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr ymgysylltu â'u rhestrau darllen - gall myfyrwyr awgrymu adnoddau i'w hychwanegu yn ogystal â gallu hoffi adnoddau, rhoi sylwadau ar restrau a chreu eu rhestrau eu hunain
Manteision i'r llyfrgell
- Cryfhau ymwneud y llyfrgell â, a chyfraniad y llyfrgell at addysgu a dysgu
- Yn galluogi llyfrgellwyr i gynorthwyo staff academaidd i ddatblygu rhestrau darllen sy'n gwneud y defnydd gorau o gasgliad y llyfrgell
- Yn sicrhau bod gan y Llyfrgell ddigon o gopïau o eitemau ar eich rhestrau bob amser
- Yn caniatáu i'r llyfrgell wneud dewisiadau prynu mwy gwybodus wedi'u hintegreiddio'n llawn â system reoli'r llyfrgell. Llai o risg o dorri hawlfraint