Oes rhaid i mi dalu?
Na, telir y costau o gyllideb y Llyfrgell.
Sut y byddaf yn derbyn y llyfr/cyfnodolyn y gofynnais amdano?
Bydd erthyglau’n cael eu hanfon yn electronig - fe'ch hysbysir trwy e-bost ynghylch sut i gael gafael arnynt.
Bydd llyfrau ar gael i'w casglu o'ch Llyfrgell Campws.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i'm heitem gyrraedd a sut y byddaf yn gwybod pryd i'w chasglu?
Mae’n cymryd 7-10 diwrnod ar gyfartaledd, ond gan amlaf mae ILLs yn barod mewn 2-3 diwrnod. Sylwch y gall ceisiadau anarferol gymryd mwy o amser. Os oes rhaid casglu eich ILL, fe'ch hysbysir trwy e-bost gan
ddelivery@cardiffmet.ac.uk.
A gaf i adnewyddu llyfr neu draethawd ymchwil?
Gallwch, er bod hyn yn amodol ar gymeradwyaeth y sefydliad benthyca. Os ydych chi am adnewyddu ILL, dewch ag ef i'ch Canolfan Ddysgu. Bydd angen iddynt ei gadw nes bydd yr adnewyddiad wedi'i gytuno.
Sut y byddaf yn gwybod a yw fy ILL wedi'i adnewyddu?
Byddwch yn derbyn e-bost gan
ddelivery@cardiffmet.ac.ukyn eich hysbysu o benderfyniad y sefydliad benthyca.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn colli eitem?
Cysylltwch â'ch Canolfan Ddysgu cyn gynted â phosibl. Os cafodd y llyfr neu'r traethawd ymchwil ei rhoi ar fenthyg gan y Llyfrgell Brydeinig, codir isafswm ffi amnewid o £166.20. Gall y ffi hon fod yn uwch os yw'r eitem yn brin neu'n ddrud.
Rwyf wedi cael llythyr yn galw fy eitem yn ôl ac mae'n gynharach na'r dyddiad a roddwyd i mi yn wreiddiol?
Mae angen dychwelyd yr eitem i'ch llyfrgell campws ar unwaith. Mae’r dyddiad yn newid oherwydd bod galw mawr am yr eitem ac mae nifer o fenthycwyr yn aros.
A gaf i ofyn am ddeunydd a gedwir ar Gampws arall Met Caerdydd?
Gallwch, gallwch wneud hyn trwy wirio MetSearch a gofyn i'r eitem gael ei hanfon i ba bynnag campws sy'n fwyaf cyfleus i chi. Dim ond ar gyfer deunydd NAD yw Met Caerdydd yn ei gadw y defnyddir Ffurflenni Cais ILL.
Gyda phwy y dylwn gysylltu i gael mwy o wybodaeth?
Gallwch ofyn i'r staff yn eich Canolfan Ddysgu neu e-bostio
Dosbarthu Dogfennau.
Benthyca i Sefydliadau eraill - Gall Prifysgol Metropolitan Caerdydd gyflenwi'r canlynol o dan ILL: llyfrau, erthyglau cyfnodolion (nid rhifynnau cyfan). Anfonwch fanylion eich cais at delivery@cardiffmet.ac.uk gan gynnwys eich rhif cais a'ch rhif Cyfrif BL.
Dolenni Allanol:
Mae'r gwasanaeth digido yn caniatáu i'r Llyfrgell ddigido deunyddiau craidd ar gyfer carfannau penodol a sicrhau eu bod ar gael wedyn trwy Moodle.
Mae'r mathau o ddeunydd y gellir eu digido yn cynnwys: penodau llyfrau; erthyglau a delweddau cyfnodolion. Mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg ar y cyd â Thrwydded Sganio'r Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA).
Beth Ellir ei Sganio?
Hyd at 5% neu un bennod gyfan, pa un bynnag sydd fwyaf, o lyfr.
Hyd at 5% neu un erthygl gyfan, pa un bynnag sydd fwyaf, o un rhifyn o gyfnodolyn.
Hyd at 5% neu un erthygl gyfan, pa un bynnag sydd fwyaf, o set o drafodion cynhadledd.
Hyd at 5% o flodeugerdd o straeon byrion neu gerddi neu un stori fer neu un gerdd heb fod yn fwy na 10 tudalen, pa un bynnag sydd fwyaf.
Hyd at 5% neu un achos sengl, pa un bynnag sydd fwyaf, o adroddiad cyhoeddedig o achos barnwrol.
Delwedd weledol, boed yn dudalen lawn neu'n rhan ohoni.
Nid yw'r drwydded flanced yn cynnwys rhai categorïau sydd wedi'u heithrio fel rhai cyhoeddiadau a nodwyd yn benodol; deunydd a gynhyrchir gan gyhoeddwyr nad ydynt yn cymryd rhan; cerddoriaeth brint; mapiau. Mae rhestr o'r gwaharddiadau hyn ar gael ar restr Categorïau a Gwaith Eithriedig gwefan CLA.
Sut mae gwneud cais am ddeunydd i'w ddigido?
Llenwch y
Ffurflen Gais Digidol ar-lein.
Pa mor hir y bydd yn ei gymryd?
Rhowch o leiaf
2 wythnos o rybudd ti ni er mwyn caniatáu i ni brosesu'ch cais, yn enwedig pan fyddwn angen deunyddiau yn ystod tymor yr hydref.
Pwy sy'n uwchlwytho'r darn wedi'i ddigido i Moodle?
Bydd y darn yn cael ei e-bostio atoch a byddwch yn ei uwchlwytho i Moodle. Byddwn yn cysylltu â chi pan fydd y deunydd yn agosáu at y dyddiad y bydd angen iddo gael ei dynnu oddi yno.
Rwyf am ddefnyddio'r un deunydd eto ar gyfer carfan y blynyddoedd canlynol, a allaf wneud hyn?
Gallwch, ond bydd yn rhaid i chi gyflwyno ffurflen gais newydd gan y bydd niferoedd myfyrwyr wedi newid a bydd fersiwn newydd o'r ddogfen yn cael ei hailgyflwyno.
Awgrymiadau ar sut i gadwn gyfreithlon:
Gofyn am ddigido trwy Wasanaethau Llyfrgell Met Caerdydd.
Peidiwch ag uwchlwytho cynnwys electronig oni bai eich bod yn siŵr bod caniatâd i wneud hynny.
Dim ond myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y cwrs astudio perthnasol, a staff sy'n addysgu'r cwrs, all lawrlwytho neu argraffu'r deunydd.
Ni chaniateir trin digidol, morffio, addasu lliw nac arlliw neu fel arall, ac eithrio sicrhau bod copi yn hygyrch i Bobl â Nam ar eu Golwg.
Rhaid i unrhyw ddelweddau a ddefnyddir gael eu credydu i'r deiliad hawliau yn briodol.
Mae papurau newydd, cerddoriaeth a mapiau wedi'u heithrio o'r cynllun hwn.
Mae gan yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint yr hawl i archwilio gweinyddwyr sefydliadol i sicrhau y cedwir at y drwydded.
Gyda phwy y dylwn gysylltu i gael cyngor?
Nicola Herbert
E-bost:
ddelivery@cardiffmet.ac.uk