Mynediad o Bell gyda'r gwasanaeth FINDAPC

​Gall myfyrwyr bellach gael mynediad at gyfrifiaduron myfyrwyr ar y safle gyda'r gwasanaeth FINDAPC

 
Mae'r gwasanaeth AppsAnywhere eisoes yn caniatáu i fyfyrwyr ffrydio amrywiaeth o feddalwedd sy'n gysylltiedig â'r cwrs i'w dyfeisiau eu hunain ond deallwn, oherwydd y cyfyngiadau pandemig presennol, y gall fod achosion lle nad yw AppsAnywhere yn cyd-fynd yn llwyr â'ch gofynion, mae enghreifftiau'n cynnwys:

  • Rydych chi'n defnyddio Mac ac angen mynediad i feddalwedd Windows.
  • Nid yw eich cyfrifiadur personol yn ddigon pwerus i redeg y meddalwedd.
  • Mae angen i chi gael gafael ar feddalwedd / adnoddau sydd ond ar gael o gyfrifiadur ar y safle.
Er mwyn cynorthwyo gyda'r senarios uchod, mae Gwasanaethau Gwybodaeth wedi agor cronfa o gyfrifiaduron yn ein Canolfannau Dysgu i fyfyrwyr gael mynediad o bell drwy ein gwasanaeth findapc newydd.
 
  • Gallwch gael mynediad i'r gwasanaeth gyda'ch enw defnyddiwr myfyrwyr (e.e. yn y fformat st12345678 ) a chyfrinair yn https://findapc.cardiffmet.ac.uk
  • Ar ôl cysylltu gallwch ddefnyddio'r cyfrifiadur fel petaech yn ei ddefnyddio ar y safle.
  • Dylech gadw eich ffeiliau i OneDrive a sicrhau bod ffeiliau wedi cysoni cyn eu diffodd.
  • Defnyddiwch y gwasanaeth pan fo angen a dim ond cyhyd ag y bydd ei angen arnoch. Bydd cysylltiadau segur yn cael eu datgysylltu'n awtomatig ar ôl 1 awr o anweithgarwch.
  • Cofiwch allgofnodi ar ddiwedd eich sesiwn fel y gellir sicrhau bod y cyfrifiadur ar gael i'w ailddefnyddio cyn gynted â phosibl.
 
Ceir rhagor o fanylion am ddefnyddio'r gwasanaeth yma