Am Eduroam
Eduroam (
education roaming) yw'r gwasanaeth mynediad crwydrol, diogel, byd-eang a ddatblygwyd ar gyfer y gymuned ymchwil ac addysg ryngwladol. Mae Eduroam yn caniatáu i fyfyrwyr, ymchwilwyr a staff o'r sefydliadau sy'n cymryd rhan gysylltu â’r Rhyngrwyd ledled y campws ac wrth ymweld â sefydliadau eraill sy’n rhan o’r cynllun, trwy wneud dim ond agor eu gliniadur.
Bydd ffurfweddu'ch dyfais ddi-wifr i ddefnyddio'r gwasanaeth eduroam yn golygu eich bod yn gallu cael mynediad Wi-Fi am ddim mewn nifer cynyddol o sefydliadau addysgol ledled y byd. Mae sefydliadau eraill fel amgueddfeydd, ysbytai a thrafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn ymuno â'r gwasanaeth a byddwch chi'n synnu pa mor aml y byddwch chi'n canfod fod eduroam ar gael.
Mae Eduroam ar gael ar bob campws ac mewn neuaddau preswyl. Wedi i chi gysylltu, bydd y cysylltiad yn para wrth i chi deithio o amgylch y campysau. Gallwch gysylltu cymaint o ddyfeisiau ag y dymunwch hefyd gan gynnwys eich ffôn clyfar, eich llechen a'ch gliniadur.