Bydd biliau mawr yn cael eu hamlygu i ddeiliad y gyllideb berthnasol ac os oes angen yn uniongyrchol i'r aelod perthnasol o VCB. Gall defnyddio cyfryngau, fel fideo, neu ddefnydd tramor, yn enwedig o ran Mynediad i'r We, fod yn gostus iawn.
Sut ydw i’n cael ffôn symudol neu ffôn clyfar?Byddai angen i chi ddewis ffôn symudol neu ffôn clyfar oddi ar restr brisiau ddiweddaraf Vodafone. Mae dolen i hon isod. Nid yw Met Caerdydd yn cefnogi Blackberry a'n ffonau clyfar yr ydym yn eu hargymell yw iPhones Apple neu Ddyfeisiau HTC gyda System Weithredu Android. Os oes angen gwasanaeth data arnoch chi yna bydd angen i chi hefyd gysylltu â Desg Gymorth TG i sicrhau eich bod yn dewis y tariff data mwyaf priodol. Yna dylai eich rheolwr llinell anfon cais ffurfiol yn ysgrifenedig neu ar e-bost i gadarnhau ei fod yn hapus bod Met Caerdydd yn ariannu'r costau prynu a chontract 2 flynedd. Dylai'r cais hefyd nodi pam mae angen y contract a darparu cod cost i'w ail-anfon ar gyfer caffael y set law. Mewn achosion eithriadol, efallai y bydd angen cymeradwyaeth ychwanegol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth ar gaffaeliadau ffonau clyfar.
Beth i'w wneud os byddwch chi'n colli'ch ffôn symudol Os yw eich ffôn symudol ar goll neu wedi'i dwyn, cysylltwch â thîm Gwasanaethau Cwsmeriaid Sector Cyhoeddus Vodafone ar 03333 044444. Gallan nhw osod bar ar unwaith. Yna, cyn gynted â phosibl, rhowch wybod i'ch rheolwr llinell a'ch Desg Gymorth TG.
Beth os ydw i'n bwriadu teithio dramor?Gall taliadau crwydro, am ddata a/neu lais, fod yn ddrud iawn. Os ydych chi'n teithio'n rheolaidd, fel rhan o'ch contract Metropolitan Caerdydd, yna mae'n werth ystyried un o'r Bwndeli Data Crwydro a restrir yn y Tariff Symudol ond gall y rhain hefyd fod yn ddrud dros gyfnod hir o amser.
Sut mae biliau ffôn symudol yn cael eu talu?Cynhyrchir anfonebau ffôn symudol bob chwarter (3edd wythnos Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref) gan Vodafone. Yna fe'u danfonir yn uniongyrchol i weinyddwyr adrannol trwy e-bost.
Gweler isod am gymorth a gwybodaeth bellach: |