Meddalwedd i Fyfyrwyr

Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch gael meddalwedd ar gyfer eich dyfeisiau personol ym Met Caerdydd. I gael rhaglenni Met Caerdydd, rydym yn argymell eich bod yn ymweld â'n siop appsanywhere.

Fodd bynnag, mae yna ffyrdd eraill o gael meddalwedd tra'ch bod chi'n fyfyriwr ym Met Caerdydd. O dan yr adran appsanywhere isod, mae gwybodaeth ar sut i'w gael!

 

appsawhere2.png 

Mae appsanywhere yn galluogi mynediad i apiau ble bynnag yr ydych chi, ar unrhyw ddyfais, ar unrhyw adeg, ar ac oddi ar y campws. Gallwch hyd yn oed gyrchu apiau Met Caerdydd ar eich gliniadur eich hun, o 'app store' hollol addasadwy.

Yma gallwch ffrydio rhaglenni i'ch dyfais bersonol neu lawrlwytho a gosod rhaglenni fel NVivo, SPSS a meddalwedd AntiVirus yn rhad ac am ddim.

Gallwch weld y siop trwy fynd i appsanywhere.cardiffmet.ac.uk.

 

_________________ 

 

off365.png 

Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi gael Microsoft Office YN RHAD AC AM DDIM tra'ch bod chi'n fyfyriwr ym Met Caerdydd?

Mewngofnodwch trwy fynd i’r porth myfyrwyr a chliciwch ar y deilsen E-bost. Neu gallwch fynd i http://outlook.office365.com ar eich dyfais bersonol.

I gael canllawiau ar sut i osod Office ar eich dyfais bersonol, ewch i'n hadran Canllawiau Fflach ar astudio. 

_________________ 

 

OTH.png

Gallwch fanteisio ar fargeinion anhygoel ar feddalwedd academaidd ar OnTheHub.

Oeddech chi'n gwybod, fel myfyriwr ym Met Caerdydd, y gallwch chi lawrlwytho a gosod eich copi eich hun o Windows 10 YN RHAD AC AM DDIM?

Gallwch gael y feddalwedd hon trwy fynd i cardiffmet.onthehub.com.

 

 _________________ 

 

P'un ai eich bod yn dadansoddi data, yn datblygu algorithmau neu'n creu modelau, mae MATLAB wedi'i gynllunio ar gyfer y ffordd rydych chi'n meddwl a'r gwaith rydych chi'n ei wneud.

Mae MATLAB® yn cyfuno amgylchedd bwrdd gwaith wedi'i diwnio ar gyfer prosesau dadansoddi ailadroddol a dylunio gydag iaith raglennu sy'n mynegi matrics ac mathemateg arae yn uniongyrchol. 

Am fanylion ar sut i gael gafael ar y feddalwedd, gweler y canllaw gosod yma.

 _________________ 

  

spss.png

Mae SPSS 24 ar gyfer Windows a MacOS ar gael trwy appsanywhere.

Fodd bynnag, pe byddech chi'n cael problemau wrth geisio mynd i appsanywhere ar eich dyfais, gallwch gael y gosodwyr, y canllaw gosod a'r cod trwydded isod:

Windows

MacOS

Canllaw a Chod Gosod

 

Rhaglenni: SPSS 25

SPSS 25 ar gyfer MacOS (High Sierra ac uwch YN UNIG).

MacOS

 

_________________ 

 nvivo.jpg

 

NVIVO 12 for Windows and MacOSar gael trwy appsanywhere.

Fodd bynnag, pe baech chi'n cael problemau wrth fynd i appsanywhere ar eich dyfais, gallwch chi lawrlwytho’n uniongyrchol isod.

Gosodwr MacOS

Gosodwr Windows

_________________