Yammer

Cysylltu Cyflym

Dull QuickConnect o Gysylltu ag Eduroam 

Ym Met Caerdydd, rydym yn eich cynghori'n gryf i gysylltu ag Eduroam gan ddefnyddio'r dull diogel. Bydd hyn yn sicrhau bod eich cysylltiad yn ddiogel ac yn amddiffyn eich dyfais rhag bygythiadau diogelwch posibl. 

Dim ond os ydych chi'n profi problemau yn cysylltu gan ddefnyddio'r offeryn diogel y dylid defnyddio'r opsiwn hwn. 

Apple/iOS

  1. Cysylltu â rhwydwaith Eduroam
  2. Yn y maes Enw Defnyddiwr, nodwch eich ID defnyddiwr ac yna mae’n rhaid ei ddilyn gyda @cardiffmet.ac.uk:

  3. Rhowch eich cyfrinair yn y maes cyfrinair. 
        • Rydym yn argymell eich bod yn newid eich cyfrinair os ydych chi'n aelod newydd o staff neu'n fyfyriwr cyn cysylltu ag Eduroam. Ar ôl i chi wneud hynny, ni chewch eich annog i’w newid yn y dyfodol. 
  4. Dylech Dderbyniwch/Ymddiried mewn tystysgrifau os gofynnir i chi wneud hynny. 

 

Android

  1. Cysylltu â rhwydwaith Eduroam.
  2. Dylai'r EAP fod yn PEAP.
  3. Dylai Dilysiad Graddol (Phased Authentication) fod yn MSCHAPv2.
  4. Dylai’r Tystysgrif CA fod yn do not validate.
  5. Yn y maes Enw Defnyddiwr, nodwch eich ID defnyddiwr ac yna mae'n rhaid ei ddilyn gyda @cardiffmet.ac.uk:
  6. Anwybyddwch y maes Anonymous Identity, a’i adael yn wag.

  7. Rhowch eich cyfrinair yn y maes cyfrinair. 

        • Rydym yn argymell eich bod yn newid eich cyfrinair os ydych chi'n aelod newydd o staff neu'n fyfyriwr cyn cysylltu ag Eduroam.  Ar ôl i chi wneud hynny, ni chewch eich annog i’w newid yn y dyfodol. 
  8. Gwasgwch Connect.

 

Os byddwch yn dal i gael problemau, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth TG neu dewch i'n gweld yn Ystafell TG eich Canolfan Ddysgu.