MyCardiffMet - ein ap symudol rhad ac am ddim ar gyfer myfyrwyr.
 |
 |
Ar gael hefyd trwy borwr gwe yma.
Mae MyCardiffMet yn llawn dop o wasanaethau a nodweddion defnyddiol, sy’n galluogi mynediad 24 awr i fyfyrwyr i'r canlynol:
AccessAble
Gwybodaeth ac adnoddau hygyrch i'r holl ddefnyddwyr.
Active Challenge:
Strategaeth prifysgol iach y brifysgol ar gyfer iechyd a lles.
Apps Anywhere:
Siop apiau er mwyn gallu cael meddalwedd yn ôl y galw.
Amserlen Bysiau:
Gweld pryd fydd y bws Met Rider nesaf yn cyrraedd a gosod rhybuddion.
Llety Caerdydd:
Cyngor ar faterion cymunedol myfyrwyr gan gynnwys tai, ailgylchu a gwastraff, teithio a mwy.
E-bost Met Caerdydd:
Rheoli eich e-bost prifysgol personol a chael y wybodaeth ddiweddaraf am gyhoeddiadau allweddol.
E-Dalu:
Rhoi arian ar eich Cerdyn ID Arlwyo: Rhowch arian ar eich cerdyn ID gyda cherdyn credyd/debyd neu PayPal ar gyfer talu'n electronig yn y ffreuturau.
My Transactions: Yn dangos yr holl drafodion sy'n gysylltiedig â'ch Cerdyn ID.
Porth Talu Myfyrwyr Rhyngwladol: Talwch ffioedd dysgu, ffioedd llety a chosbau drwy drosglwyddiad banc neu gerdyn credyd/debyd.
Taliadau System Cyllid Myfyrwyr Met Caerdydd: Talwch ffioedd dysgu, ffioedd llety a chosbau drwy drosglwyddiad banc neu gerdyn credyd/debyd.
Siop Met Caerdydd: Talwch am gyrsiau byr, nwyddau, cynadleddau a digwyddiadau, cynhyrchion met life, tocynnau bws Met-Rider, cardiau ID newydd, trwyddedau parcio , ac ati.
FabLab:
Yn cynnig y dechnoleg gweithgynhyrchu digidol a phrototeipio cyflym diweddaraf.
Oriel: Twitter Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth (L&IS) Met Caerdydd.
Archebu Seremoni Raddio:
Bwcio ar gyfer seremoni benodol, os ydych chi'n gymwys i ddod - ar gael yn ystod y flwyddyn olaf.
Cymorth:
Defnyddwyr Gwadd: Gwybodaeth am fynediad i ddefnyddwyr gwadd.
Rhybuddion: Manylion am y swyddogaeth rybuddio o fewn yr ap.
Amserlen Bysiau: Sut i ddefnyddio'r offeryn amserlen bysiau.
Adborth (iOS): Gwybodaeth am roi adborth.
Adborth (Android): Gwybodaeth am roi adborth.
Cwestiynau Cyffredin am y Gwasanaethau Llyfrgell: Tudalennau gwe’r gwasanaethau llyfrgell.
Cymorth Moodle: Gwybodaeth am ddefnyddio Moodle.
Rhyngwladol:
Apwyntiadau gyda'r Heddlu: Trefnwch apwyntiad i gofrestru'ch manylion gyda'r heddlu, os oes angen.
Ceisiadau am Lythyr gan y Swyddfa Ryngwladol: Gofynnwch am lythyrau swyddogol o'r swyddfa ryngwladol i brofi eich bod wedi cofrestru ym Met Caerdydd.
Gwirio Manylion Myfyrwyr: Gwiriwch eich manylion personol neu gofynnwch am wneud newidiadau.
Canllaw Poced: Y cyfan sydd angen i chi ei wybod am fywyd yn y brifysgol a'r ardaloedd cyfagos.
Archebu Trip Cymdeithasol: Bwciwch ar deithiau cymdeithasol a drefnir gan y brifysgol.
Dolenni Fideo: Cyfres o fideos defnyddiol am wasanaethau Met Caerdydd a chyngor ar fyw yn y DU.
Gwasanaeth Cynghori Academaidd Rhyngwladol Met Caerdydd: Y cynghorwyr mewnfudo rhyngwladol yn darparu cyfres o eirdaon gan fyfyrwyr.
Statws Gwasanaeth TG:
Gwirio statws yr holl brif wasanaethau sy'n gysylltiedig â TG trwy ein tudalennau statws gwasanaeth.
Golchdy:
Gwiriwch os oes golchwyr a sychwyr ar gael mewn ystafelloedd golchi dillad.
Llyfrgell:
Fy Nghyfrif Llyfrgell: Gweld benthyciadau, ceisiadau, dirwyon, ffioedd a negeseuon.
Chwiliad Llyfrgell (MetSearch): Chwiliwch gasgliadau print ac electronig Met Caerdydd.
Oriau Agor: Gweld oriau agor ar gyfer canolfannau dysgu, Desg Gymorth TG a mannau 24 awr.
Cysylltu â Ni: Mae nifer o ffyrdd o gysylltu.
Sgwrs Fyw:
Ar gyfer ymholiadau llyfrgell fel, benthyciadau, dirwyon, e-lyfrau, e-gyfnodolion ac oriau agor.
Lleoliadau:
Yn nodi lleoliadau allweddol yn y brifysgol.
MetHub:
Gyrfaoedd, entrepreneuriaeth, cyngor a chefnogaeth.
Met Res Life:
Calendr o ddigwyddiadau a ddarperir ar gyfer myfyrwyr sy'n byw mewn neuaddau.
Moodle:
Moodle: Eich amgylchedd dysgu rhithwir (VLE).
Cymorth: Cymorth Moodle.
Fy Manylion:
Manylion Personol: Gweld eich manylion personol.
Gwirio Manylion Myfyrwyr: Gwiriwch eich manylion personol neu gofynnwch am eu newid.
Manylion Academaidd: Gweld eich rhaglenni a'ch modiwlau cofrestredig (gyda chynlluniau asesu).
Fy Nogfennau: Cynhyrchu prawf cofrestru neu dystysgrif treth gyngor (fformat PDF), os ydych yn gymwys.
Myfyrwyr Newydd:
Gwybodaeth Sefydlu i Fyfyrwyr Newydd: Dolenni a gwybodaeth ddefnyddiol.
Gweithgaredd EDGE i Fyfyrwyr Newydd: Gweithgaredd ar-lein i fyfyrwyr newydd.
Amserlen Wythnos Sefydlu: Eich wythnos gyntaf ym Met Caerdydd.
Tiwtor personol:
Rheolwch apwyntiadau gyda'ch tiwtor personol.
Canllaw Poced:
Y cyfan sydd angen i chi ei wybod am fywyd yn y brifysgol a'r ardaloedd cyfagos.
Proffil Marciau:
Yn caniatáu i chi weld eich proffil marciau diweddaraf.
Cyfryngau Cymdeithasol:
Y newyddion a'r gwefannau cymdeithasol diweddaraf.
Ymholiadau Myfyrwyr:
Yn caniatáu i chi wneud ymholiadau ar-lein gyda'r cynghorwyr i-Zone.
Adborth Myfyrwyr:
Rydym am i'ch syniadau ein helpu i wella ein gwasanaethau yn ap symudol MyCardiffMet.
Gwasanaethau Myfyrwyr:
Rydym yn cynnig cwnsela a chyngor cyfrinachol, diduedd, anfeirniadol a chyfrinachol am arian, llesiant, anabledd a dyslecsia yn rhad ac am ddim.
Undeb y Myfyrwyr:
Adran Gynrychiolaeth: Gwybodaeth am swyddogion gweithredol myfyrwyr.
Cerdyn Gostyngiad: Cerdyn ffordd o fyw myfyrwyr Met Caerdydd sy'n cynnig gostyngiadau ar ac oddi ar y campws.
Cymdeithasau Myfyrwyr: Gwybodaeth am ein hamrywiaeth o gymdeithasau.
Digwyddiadau cyfredol:Gweld digwyddiadau undebau myfyrwyr..
Siop Swyddi: Cyfleoedd gwaith i fyfyrwyr a graddedigion.
Cyngor a Chefnogaeth: Cyngor academaidd, llety a bugeiliol.
Astudio/Gwaith Dramor:
Cyfleoedd i staff a myfyrwyr weithio dramor.
Amserlenni:
Yn caniatáu i fyfyrwyr weld eu hamserlen bersonol.
Teithiau Rhithwir:
Ewch ar daith rithwir o amgylch lleoliadau allweddol yn y brifysgol.
Eich Technoleg:
Eich grŵp technoleg yn Yammer Mae'r grŵp hwn yn lle i chi rannu'ch profiadau â thechnolegau defnyddiol ac i dynnu sylw at ac arddangos datblygiadau technolegol.
I gael help gan ddefnyddio MyCardiffMet ewch i'r adran gymorth yn yr ap.
Os ydych chi'n cael problemau na allwch ddod o hyd i'r ateb iddynt, e-bostiwch
Sylwer:
Er bod MyCardiffMet ar gael i bawb, allwn ond cynnig help a chefnogaeth i staff a myfyrwyr cyfredol. Gweler y
Cwestiynau Cyffredin am fwy o fanylion
.
Gwnewch yn siwr eich bod yn rhoi cyfrinair ar eich dyfais symudol. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes posib gweld eich gwybodaeth bersonol neu'ch e-byst ar eich dyfais.