Microsoft Teams

Mae Microsoft Teams yn cyfuno galwadau sgwrsio, fideo a sain, cyfarfodydd, nodiadau a ffeiliau yn y gweithle. Mae'r gwasanaeth yn integreiddio llawer o gymwysiadau Office 365, fel SharePoint Online, Planner a Stream, ac yn eu rhoi mewn un lleoliad hawdd ei gyrraedd. 

Mae hefyd yn offeryn gwych i'w ddefnyddio pan fyddwch chi'n Gweithio o Gartref

Darganfyddwch isod sut y gallwch ddefnyddio Teams ac Office 365 i wella cyfathrebu a chydweithio. Gall holl fyfyrwyr a staff Met Caerdydd ymuno â Teams neu hyd yn oed sefydlu eu tîm eu hunain.

 

Gweminarau Microsoft Teams - Mae cyfres o weminarau ar ddefnyddio Teams ar gyfer gweithio o bell ac addysgu o bell wedi'u hamserlennu ar gyfer diwedd Tymor y Gwanwyn 2020.

Mwy o fanylion a chofrestru

 

Pryd i ddefnyddio Teams

Rydym yn gwerthfawrogi bod llawer o wahanol offer cyfathrebu a llwyfannau storio ar gael i staff a myfyrwyr Met Caerdydd.  Cymerwch gip ar y Cyfathrebu a Chydweithio ym Met Caerdydd i gael cyngor ar offer cyfathrebu a storio craidd.

 

Pa ddyfeisiau i'w defnyddio gyda Teams?

Gallwch ddefnyddio Teams gyda Chyfrifiaduron Windows & Apple, yn ogystal â dyfeisiau Android ac IOS.  Fe gewch chi'r profiad gorau pan fydd gwe-gamera a meicroffon yn eich dyfais ond gall Teams ddarparu llawer o ymarferoldeb defnyddiol hebddyn nhw o hyd. 

Sut i gael mynediad i Teams

Lawr lwythwch yr Ap Teams ar gyfer eich dyfais i gael y profiad gorau. Gallwch hefyd fewngofnodi i  mewn i Teams ar y we

 

Defnyddio Teams

Mae gan Microsoft ganllawiau gwych i gael y gorau o Teams ond Os nad ydych wedi ei ddefnyddio o'r blaen byddem yn awgrymu dechrau gyda'r Demo Rhyngweithiol

Mae'r Demo Rhyngweithiol yn ymdrin â rhai o'r nodweddion a ddefnyddir amlaf mewn Teams ac mae'r fideos byr isod yn darparu mwy o wybodaeth i'ch cael chi ar waith yn gyflym gyda Teams.

Ydi'n well gennych PDF? Mae Microsoft wedi ysgrifennu canllaw Cychwyn Cyflym i'ch rhoi ar ben ffordd





 Content Editor

Migrating-Skype.png

On 1st September, Skype for Business will be deactivated for staff and students, in favour of Teams. Further information about the switch to Teams, can be found at:

http://study.cardiffmet.ac.uk/IT/Pages/Teams-Only.aspx

 

MSTeamsLogo.jpg

MTU.PNG

Microsoft Teams University is a resource developed by Microsoft to help and advise on the best ways to use teams based on your role as an Educator, Student or Researcher. From the MTUniversity you can join communities, learn about official Microsoft Educators Training and much more ...