Os hoffech fenthyg gliniadur dros gyfnod yr haf, bydd angen cadarnhad arnom gan ddarlithydd yn eich ysgol bod ei angen arnoch at ddefnydd academaidd. Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar yr adran 'Defnydd Dros Gyfnod yr Haf' isod.
Mae adran TG Met Caerdydd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr fenthyg gliniadur yn rhad ac am ddim. Mae'r gliniaduron ar gael i'w benthyg o'r lleoliadau canlynol:
Mae gliniaduron ar gael i'w benthyg am gyfnod o bedair wythnos. Ni ellir adnewyddu gliniaduron ar-lein ac mae'n ofynnol eu dychwelyd i'r Ddesg Gymorth Technoleg ar ôl cyfnod y benthyciad, er mwyn i ni allu cymryd golwg ar y gliniadur er mwyn sicrhau ei fod mewn cyflwr da ac wedi'i gynnal yn unol ag amodau'r benthyciad. Gan gymryd nad oes archeb a bod y gliniadur yn yr un cyflwr ag y cafodd ei fenthyg i chi, byddwn yn ei fenthyg i chi am bedair wythnos arall.
Cofiwch, pan fyddwch yn dychwelyd y gliniaduron atom, byddant yn cael eu hailadeiladu ar gyfer y person nesaf sy'n dymuno’u benthyg, sy’n golygu bod unrhyw ddata rydych chi wedi'i gadw neu raglenni rydych wedi'u gosod yn cael eu tynnu ac nad oes modd eu hadennill. Codir £5 y dydd am liniaduron sy’n cael eu dychwelyd yn hwyr. Gellir codi taliadau pellach os yw'r gliniadur wedi'i difrodi neu ar goll, neu os oes perifferolion ar goll.
Sylwch y bydd gofyn i chi gael awdurdodiad gan eich darlithydd yn ystod misoedd yr haf os ydych chi am fenthyg gliniadur i astudio. Pam? Mae'r gliniaduron hyn yn eitemau drud yr ydym yn ceisio eu cadw yn y cyflwr gorau posibl i chi eu defnyddio i astudio. Nid i'w defnyddio gartref yw eu pwrpas at ddefnydd y rhyngrwyd/cyfryngau cymdeithasol ond ar gyfer astudiaeth academaidd.