Gwestai Wi-Fi
Hunan-gofrestru ar Rwydwaith Wi-Fi Guest
Gall ymwelwyr â'r brifysgol gofrestru i ddefnyddio ein rhwydwaith Guest WiFi trwy gofrestru cyfeiriad e-bost, tebyg i fannau cyhoeddus eraill fel siopau coffi a meysydd awyr. Mae'r dull hunan-gofrestru yn rhoi 24 awr o fynediad i ymwelwyr cyn gorfod ailgofrestru.
- Cysylltwch y ddyfais â'r rhwydwaith Guest.
2. Dylai ffenestr porwr agor yn awtomatig ar y ffurflen gofrestru. Dewiswch Self Register:
3. Teipiwch gyfeiriad e-bost dilys:
4. Bydd y ddyfais yn cael mynediad dros dro i'r rhyngrwyd am 10 munud.
Er mwyn cwblhau’r cofrestriad, RHAID i chi fynd i'r cyfrif e-bost y defnyddioch chi ar gyfer cofrestru a chlicio ar y ddolen a anfonwyd atoch.
Cysylltiad Noddedig â'r Rhwydwaith Guest Wi-Fi
Mae gan ymwelwyr sy'n mynychu'r brifysgol at ddibenion addysgol neu ymchwil hefyd yr opsiwn o ofyn i aelod o staff Met Caerdydd noddi eu mynediad. Bydd yr aelod staff a ddewisir fel noddwr yn e-bostio dolen i wirio'r ymwelydd. Bydd ymwelwyr sy'n cofrestru fel hyn yn cael mynediad am wythnos cyn gorfod ailgofrestru.
- Cysylltwch y ddyfais â'r rhwydwaith Guest.
2. Dylai ffenestr porwr agor yn awtomatig ar y ffurflen gofrestru. Dewiswch Sponsored WIFI Access:

3. Teipiwch eich cyfeiriad e-bost a chyfeiriad e-bost yr aelod staff yn y mannau perthnasol.

Er mwyn cael mynediad i'r rhwydwaith Guest am yr wythnos, rhaid i'ch noddwr glicio ar y ddolen sydd wedi'i hanfon atynt yn y cyfeiriad uchod.
Cysylltwch â'r Ddesg Gymorth TG ar x7000 neu ithelpdesk@cardiffmet.ac.uk os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda hyn.