Mae’r Llyfrgell a Gwasanaethau Gwybodaeth yn cymryd copïau wrth gefn o'r holl ddata a gedwir ar systemau corfforaethol Met Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys y System Myfyrwyr, Cyllid Agresso, Amserlennu, Archibus, Sharepoint, Moodle, Gweinydd Gwe Met Caerdydd ac iTrent.
Mae'r copïau wrth gefn hyn yn helpu i sicrhau na chollir data Met Caerdydd os bydd caledwedd yn methu, camweithio meddalwedd neu ddigwyddiad mawr.
Gweler y Copi wrth gefn o ddata corfforaethol am fanylion llawn neu cysylltwch â'r Ddesg Gymorth TG os oes gennych unrhyw ymholiadau.