MAC address

Ddod o hyd i gyfeiriad MAC eich consol

Er mwyn cysylltu eich consol gemau â'r rhwydwaith Cyfryngau, yn gyntaf bydd angen i chi gofrestru cyfeiriad MAC eich dyfais

Mae gan y cyfeiriad MAC 12 nod - cyfuniad o lythrennau a rhifau fel arfer

Pan fyddwch wedi dod o hyd i'r cyfeiriad MAC, ysgrifennwch ef i lawr, a chofrestrwch eich consol


2000px-PlayStation_4_logo_and_wordmark.svg.png

1. O'r Brif Ddewislen, dewiswch Settings > System 

2. Dewiswch System Information 

3. Bydd y cyfeiriad Mac ar gyfer Wi-Fi a LAN yn cael ei arddangos ar y sgrin 


xboxone4.png

Os ydych chi'n gallu cyrraedd y brif ddewislen ar eich Xbox, dilynwch y camau isod i ddod o hyd i gyfeiriad MAC eich consol 

1. Os ydych chi wedi mewngofnodi i'ch proffil, ewch i My Games & Apps. ** Gallwch hepgor y cam hwn os nad ydych wedi mewngofnodi i broffil 

2. Dewiswch Settings > Network   

3. Dewiswch Advanced Settings   

4. Bydd cyfeiriad MAC ar gyfer Di-wifr a Gyda Gwifren yn cael ei arddangos ar ochr dde'r sgrin

Nodwch: Os ydych chi'n defnyddio'ch Xbox One am y tro cyntaf, bydd angen cysylltiad rhyngrwyd i gyrraedd y ddewislen gosodiadau lle byddwch chi'n dod o hyd i'r cyfeiriad MAC sydd ei angen arnoch i gofrestru'ch dyfais. Y ffordd i wneud hyn yw gadael i'r Xbox redeg trwy’r system gosod, gadael iddo fethu, dewis “Fix It” ac yna bydd yn ceisio gwneud diagnosis o'r mater. Pan fydd hynny'n methu, byddwch yn gweld sgrin fydd yn eich annog i sefydlu'r cysylltiad eich hun, gan restru'r cyfeiriad MAC diwifr a gyda gwifren. 


WiiU2.png

1. O'r Ddewislen Wii U, dewiswch System Settings 

2. Gan ddefnyddio'r Ffon Chwith, dewiswch yr eicon Rhyngrwyd a gwasgwch y Botwm A. 

3. Dewiswch View MAC Address ac aros eiliad i'r cyfeiriad MAC gael ei arddangos


ps3 1.png

1. O'r Brif Ddewislen, dewiswch Settings > System Settings

2. Dewiswch System Information 

3. Mae'r cyfeiriad MAC yn cael ei arddangos ar y sgrin hon.


360.png

1. O'r Dashfwrdd Xbox, dewiswch System > Settings > Network Settings

2. Dewiswch Advance Options a Create Ad Hoc Network 

3. Rhowch Temp fel yr enw a dewis None fel diogelwch

4. Ar y Tudalen Gosodiadau Rhwydwaith dewiswch y rhwydwaith Temp a dewiswch Configure Network 

5. Yn y Ffenestr sy'n ymddangos dewiswch y tab Additional Settings

6. Ewch i Advanced Settings a Gwasgu A. 

7. Mae'r cyfeiriad MAC yn cael ei arddangos ar y sgrin hon. 


wii.png

1. O ddewislen sianel Wii, dewiswch y Wii Options (y botwm crwn ar waelod chwith y sgrin gyda "Wii" arno)

2. Dewiswch y botwm Wii Settings

3. Dewiswch y saeth Dde i fynd i mewn i ail dudalen y gosodiadau

4. Dewiswch yr opsiwn Internet

5. Dewiswch yr opsiwn Console Information

6. Mae'r cyfeiriad MAC Di-wifr i’w weld ar y llinell gyntaf.