Gweithio ac Astudio i Ffwrdd o’r Campws

MeddalweddOffice365.jpg​Mae Met Caerdydd yn darparu ystod o adnoddau i gefnogi gweithio ac astudio i ffwrdd o'r campws ac fe welwch gysylltiadau isod i'ch helpu i gysylltu.

Gwiriwch yn ôl yn rheolaidd gan fod ein canllaw yn cael ei adolygu'n rheolaidd gyda gwybodaeth newydd yn cael ei hychwanegu cyn gynted ag y bydd ar gael.

 Content Editor

SoftwareStaff.png

Meddalwedd ar gyfer Staff

Gellir cyrchu llawer o adnoddau TG Staff hefyd o ddyfeisiau personol gan gynnwys:


StudentSoftware.png

Meddalwedd ar gyfer Myfyrwyr

Rydym yn ceisio sicrhau bod cymaint o feddalwedd â phosibl ar gael i chi ar eich dyfeisiau eich hun. Mae hyn yn cynnwys:



MSTeamsv2.png

Offer Cydweithio

Mae Microsoft Teams yn darparu offer cyfathrebu a chydweithio amser real sy'n eich galluogi i gwrdd ac addysgu ar-lein.

Darganfyddwch sut y gall Teams eich helpu gyda gweithio ac addysgu o bell.

Fe welwch hefyd ystod o adnoddau ar gael gan QED i gefnogi Addysgu a Dysgu o Bell yn yr amgylchedd ar-lein.





ITSupport.png

Cymorth TG

Os oes angen Cymorth TG arnoch, gallwch gysylltu â’r Ddesg Gwasanaeth TG dros y ffôn neu e-bost.




CorpSystems.png

Mynediad at Systemau Corfforaethol

Nid yw sawl System TG yn uniongyrchol hygyrch oddi ar y campws ond gall staff sydd angen mynediad at y systemau hyn wneud hynny trwy'r Gwasanaeth Bwrdd Gwaith o Bell.




Covid19v1.png

Diweddariadau Coronafeirws y Llyfrgell a Gwasanaethau Gwybodaeth

Mae’r Llyfrgell a Gwasanaethau Gwybodaeth yn dal i fod ar agor ‘o bell’ i fusnesau!

Darganfyddwch fwy am newidiadau i'n gwasanaethau yn ystod y cyfnod gwaith/astudio o gartref cyfredol yn ein cylchlythyr diweddaraf.


security.jpg

Diogelwch

Cofiwch gadw at y Polisi Cyfathrebu Electronig, y rheoliadau GDPR a dilyn ein canllaw Diogelwch TG.

Sicrhewch fod gennych amddiffyniad gwrth-firws cyfredol ar unrhyw gyfrifiaduron personol rydych chi'n eu defnyddio. Er bod gan Windows 10 hwn wedi'i ymgorffori, gwiriwch ei fod yn gweithio’n iawn.

Fel arall gallwch lawrlwytho Sophos Anti-Virus o AppsAnywhere.

MFA.jpg

Dilysiad Aml-Ffactor

O ddydd Mawrth 21ain Ebrill, byddwn yn defnyddio Dilysiad Aml-Ffactor (MFA) ar gyfer yr holl Staff fesul cam.

Gall staff ddarganfod mwy am y gwelliant diogelwch hwn yma a pheidiwch â phoeni, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol ymlaen llaw i gynghori pryd y dylech ddefnyddio'r canllaw hwn i sefydlu'r dull a ffefrir gennych ar gyfer MFA.

phone.jpg

Dargyfeirio eich ffôn swyddfa

Dargyfeiriwch eich ffôn swyddfa i'ch ffôn symudol, cartref neu rif arall tra'ch bod chi'n gweithio oddi ar y campws.