Mae Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth yn falch o gynnig ystod o gyrsiau hyfforddi i fyfyrwyr Met Caerdydd sy'n datblygu sgiliau digidol sy'n berthnasol i'ch astudiaethau ac a fydd yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth.
Mae cwblhau ein cyrsiau Microsoft yn llwyddiannus yn arwain at gymwysterau ar ffurf
Microsoft Office Specialist a Microsoft Technology Associate. Mae ein
Bathodynnau Digidol ym Met Caerdydd yn gyfres o gyrsiau yn arwain at fathodynnau digidol y gellir eu hychwanegu at eich CVs digidol (e.e. LinkedIn) i brofi eich sgiliau i gyflogwyr.
Mae ein holl gyrsiau a chymwysterau hyfforddi TG yn
rhad ac am ddim i fyfyrwyr Met Caerdydd.
Cyrsiau a chymwysterauMicrosoft Office Specialist (MOS)
Mae ein cyfres o gyrsiau Microsoft Office Specialist yn datblygu ac yn profi arbenigedd mewn meddalwedd Office. Mae'r cyrsiau'n darparu hyfforddiant cynhwysfawr ar nodweddion allweddol Office ac yn datblygu sgiliau sydd eu hangen arnoch nid yn unig ar gyfer eich astudiaethau, ond ar gyfer cyflogaeth hefyd. Byddwch yn gallu profi y sgiliau hynny i gyflogwyr trwy ennill cymhwyster Microsoft Office Specialist.
Mae tri chwrs MOS ar gael i fyfyrwyr Met Caerdydd:
-
Microsoft Office Specialist Excel - Dysgwch sut i ddadansoddi, trin a chyflwyno data yn Excel. Bydd y cwrs yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i feistroli prif nodweddion Excel 2016. Mae'r cwrs yn defnyddio enghreifftiau ac ymarferion penodol Met Caerdydd, ynghyd â cwrs swyddogol gan Microsoft i ddarparu adnoddau cynhwysfawr ar gyfer dysgu Excel.
-
Microsoft Office Specialist PowerPoint - Dysgwch nid yn unig y sgiliau technegol sy'n ofynnol i ddefnyddio PowerPoint yn gynhyrchiol, ond hefyd yr egwyddorion dylunio y tu ôl i greu cyflwyniadau gwych. Mae'r cwrs cynhwysfawr hwn yn archwilio'r ystod lawn o nodweddion PowerPoint a bydd yn eich galluogi i greu sleidiau i ategu'ch cyflwyniadau yn berffaith.
-
Microsoft Office Specialist Outlook - Dysgwch sut i brosesu eich e-bost, calendr a'ch rhestr o bethau i'w gwneud yn fwy effeithlon. Mae'r cwrs yn archwilio offer defnyddiol, ond sydd ddim yn cael eu defnyddio ddigon, fel Baneri a Tagiau, Camau Cyflym a Ffolderi Chwilio a all eich helpu i fod yn sylweddol fwy cynhyrchiol wrth ddefnyddio Outlook.
Cymerwch gip ar ein tudalen
Microsoft Office Specialist i ddarganfod mwy am fanteision MOS.
Microsoft Technology Associate (MTA): Cwrs Hanfodion Gwe-ddylunio
Mae’r
cwrs MTA: Hanfodion Gwe-ddylunio yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i greu, golygu ac arddull tudalennau gwe. Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch yn hyderus yn hanfodion dwy dechnoleg we allweddol: HTML a CSS.
P'un a ydych am greu eich gwefan eich hun; blog neu safle portffolio personol efallai, neu os ydych chi'n paratoi'ch hun ar gyfer cyflogaeth trwy ddatblygu galluoedd digidol perthnasol, bydd y cwrs hwn yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi. A chewch hwyl yn ei wneud!
Mae'r cwrs yn arwain at y
Microsoft Technology Associate: Introduction to Programming Using HTML and CSS.Mae'r ardystiad swyddogol hwn gan Microsoft yn darparu prawf eich bod yn hyddysg yn hanfodion dylunio gwe pen blaen, sgil gwerthfawr.
Cymerwch gip ar ein tudalen
Microsoft Technology Associate i ddarganfod mwy am fuddion ardystio MTA.
Bathodynnau Digidol yng nghyrsiau Met Caerdydd
Mae rhaglen gredydu digidol Met Caerdydd yn darparu cydnabyddiaeth a thystiolaeth o sgiliau a chyflawniadau trwy fathodynnau digidol diogel y gellir eu gwirio.
Mae cwblhau cwrs yn llwyddiannus ac ennill bathodyn digidol yn brawf i gyflogwyr eich bod wedi datblygu'r sgiliau digidol rydych chi'n eu hawlio. Yr ystod gyfredol o gyrsiau sy'n arwain at fathodyn digidol Met Caerdydd yw:
Ewch i'n tudalen
Bathodynnau Digidol ym Met Caerdydd i ddarganfod mwy am fanteision bathodynnau digidol a sut maen nhw'n gweithio.