Mae Microsoft Office Specialist (MOS) yn rhaglen gymhwyster uchel ei barch yn fyd-eang sy'n ardystiad o arbenigedd mewn meddalwedd Office.
Yn Met Caerdydd rydym wedi cyfuno cymhwyster Microsoft Office Specialist gyda'n rhaglen hyfforddi bwrpasol i gynnig hyfforddiant perthnasol o ansawdd uchel sy'n eich galluogi i brofi'ch sgiliau trwy ardystiad MOS.
Ewch i
Gyrsiau Myfyrwyr neu Gyrsiau Staff i gael manylion y cyrsiau MOS sy'n cael eu cynnig, neu darllenwch ymlaen i ddysgu am fanteision MOS.
Rwy'n fyfyriwr - beth yw manteision Microsoft Office Specialist?
Bydd ennill cymhwyster MOS yn eich helpu gyda'ch astudiaethau. Byddwch yn fwy cynhyrchiol, hyderus a medrus gyda meddalwedd Office (gweler tystiolaeth). Bydd bod yn hyddysg gyda’r feddalwedd yn eich galluogi i ganolbwyntio ar gynnwys eich aseiniadau.
Yn bwysicach fyth efallai, bydd ardystiad MOS yn gnweud i chi sefyll allan i gyflogwyr. Mae cyflogwyr yn gweld llawer o CVs sy'n cynnwys "Rwy'n gallu defnyddio meddalwedd Office", ond gall un chi gynnwys
"Rwy'n gallu defnyddio Office, fel y tystiolaethir gan y ffaith fy mod wedi ennill cymhwyster Microsoft Office Specialist."
Ar ôl pasio arholiad MOS byddwch yn gallu darparu prawf o'ch sgiliau digidol i ddarpar gyflogwyr ar ffurf:
- tystysgrif a thystysgrif digidol
- bathodyn digidol y gellir ei ddefnyddio i rannu a gwirio’ch cymhwyster gyda chyflogwyr (e.e. ar LinkedIn)
Rwy'n aelod o staff - beth yw manteision Microsoft Office Specialist?
Mae ein cyrsiau Microsoft Office Specialist yn datblygu sgiliau sy'n berthnasol i staff Met Caerdydd, tra’n paratoi hyfforddeion ar gyfer yr arholiad MOS yr un pryd. Dewiswyd Microsoft Office Specialist fel cymhwyster oherwydd bod amcanion yr arholiad a'r sgiliau a ddatblygwyd yn cyd-fynd â sut mae meddalwedd Office yn cael ei ddefnyddio ym Met Caerdydd.
Mae'r cyrsiau wedi'u rhoi mewn cyd-destun sefyllfaoedd Met Caerdydd. Er enghraifft, yn y cyrsiau MOS Excel mae arddangosiadau ac ymarferion ymarfer yn defnyddio taenlenni a senarios Met Caerdydd, megis deunydd wedi’u allgludo o Qualtrics, data Moodle ac adroddiadau Business Objects. Y nod yw datblygu sgiliau trosglwyddadwy y gellir eu defnyddio'n hawdd yn y gweithle.
Bydd cwblhau cwrs MOS yn llwyddiannus yn cael ei wobrwyo â thystysgrif Microsoft Office Specialist (papur a digidol), bathodyn digidol y gellir ei ychwanegu at CVs digidol (fel LinkedIn) a bydd yn cael ei gofnodi ar eich cofnod dysgu ym Met Caerdydd.
Yn gryno - manteision Microsoft Office Specialist
1. Gwella Cynhyrchedd, Hyder a Medrusrwydd
Cymerwch olwg ar yr oriel isod i gael rhywfaint o ystadegau (wedi'u codi o'r
astudiaeth cynhyrchiant yma) ar sut y gall ardystiad MOS wella cynhyrchiant yn y gweithle.
MOS improves productivity
Certified employees are more confident when using Office software
2. Cyflogwyr yn ei werthfawrogi
Yn ôl
astudiaeth CompTIA (2011), mae 86% o reolwyr sy’n penodi yn nodi bod ardystiadau TG yn flaenoriaeth uchel neu ganolig wrth werthuso ymgeiswyr. Gan mai MOS yw un o'r cymwysterau TG amlycaf, gallwch fod yn sicr y bydd yn cael effaith ar gyflogwyr.
3. Cael ei gydnabod yn fyd-eang
Mae Microsoft Office Specialist yn ddyfarniad a gydnabyddir yn fyd-eang, a ddatblygwyd yn uniongyrchol gan Microsoft a'u partneriaid swyddogol (gan gynnwys Certiport a Wiley). Cynhelir mwy na 175,000 o arholiadau bob mis mewn 148 o wledydd (ffynhonnell).