Mae'r cwrs yn dechrau gyda sesiwn Sefydlu a Chysyniad Allweddol. Mae'r sesiwn yn esbonio'r adnoddau sydd ar gael - cwrs e-ddysgu cynhwysfawr, prosiectau ymarfer, gwerslyfrau Microsoft a meddalwedd ymarfer GMetrix - a bydd yn eich cychwyn ar eich taith MOS Excel trwy archwilio un o bileri craidd Excel: fformwlâu a swyddogaethau.
trwy archwilio un o bileri craidd Excel: fformwlâu a swyddogaethau.
Ar ôl y sesiwn cychwynnol, bydd gweddill y cwrs yn cael ei gyflwyno trwy e-ddysgu, prosiectau ymarfer a sesiynau Cysyniad Allweddol ychwanegol. Mae mynychu sesiynau Cysyniad Allweddol yn ddewisol, ond fe’u hargymhellir, gan eu bod yn archwilio prif nodweddion yn fanwl ac yn gyfle i gael help gan dîm y cwrs (neu gellir cysylltu â ni unrhyw bryd trwy e-bost neu'r grŵp Yammer MOS).
Cynhelir sesiynau Cysyniad Allweddol Dewisol 2: Ddydd Mercher 23/10/2019 13:00 - 15:00, Dydd Iau 24/10/2019 13:00 - 15:00 neu Ddydd Gwener 25/10/2019 10:00 - 12:00. Cynhelir sesiynau Cysyniad Allweddol Dewisol 3: Ddydd Mercher 13/11/2019 15:00 - 17:00, Dydd Iau 14/11/2019 14:00 - 16:00 neu Ddydd Gwener 15/11/2019 10:00 - 12:00.
Daw'r cwrs i ben gydag arholiad Microsoft Office Specialist; arholiad 50 munud, wedi'i asesu gan gyfrifiadur, lle mae'n rhaid i chi gwblhau sawl tasg ar daenlenni Excel realistig. Bydd nifer o sesiynau arholiad yn ystor yn wythnosau’n dechrau 2 Rhagfyr, 9 Rhagfyr a 16 Rhagfyr. Bydd sesiwn arholiad "ffug" yn cael ei chynnal yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 25 Tachwedd.
Cymerwch olwg ar ein tudalen Microsof Office Specialist i ddarganfod mwy am fanteision cymhwyster MOS.
Mae faint o amser dysgu yn dibynnu ar eich gwybodaeth Excel gyfredol, ond fel amcangyfrif:
-
Addysgu ystafell ddosbarth: 2 - 6 awr
-
E-ddysgu: 15 - 20 awr
-
Prosiectau ymarfer ac ymarfer arholiadau GMetrix: 5 - 9 awr
-
Arholiad ardystio: 50 munud.
Am gyfanswm o rhwng 23 - 36 o oriau.