Rheoli'ch Dogfennau gyda SharePoint a OneDrive

Mae Rheoli'ch Dogfennau gyda SharePoint a OneDrive yn archwilio sut y gall staff ddefnyddio SharePoint a OneDrive for Business i storio, rheoli a chydweithio ar ddogfennau’n effeithiol. Mae'r cwrs yn edrych ar y  gwahaniaeth rhwng y ddau blatfform ac yn nodi nodweddion defnyddiol fel cydweithredu amser real,  hanes fersiynau  a rhannu ffeiliau allanol a all eich helpu i weithio gyda'ch ffeiliau.

Target Audience

Anogir yr holl staff i fynychu'r sesiwn hon.

Prerequisites

Nid oes unrhyw ragofynion ffurfiol ar gyfer y cwrs, ond dylech fod yn gyfarwydd â defnyddio Windows, Office ac Internet Explorer.

Mae'r cwrs wedi bod yn ddefnyddiol iawn - yn bendant rwy’n teimlo'n fwy hyderus wrth ddefnyddio Sharepoint, ac yn edrych ymlaen at ddefnyddio'r hyn rydw i wedi'i ddysgu.

Course Structure

Mae'r cwrs yn para tua 3.5 awr ac yn cynnwys egwyl o 15 munud tua hanner ffordd drwodd.

Upcoming Courses

  
  
  
There are no items to show in this view of the "IT Training Schedule" list.

Specific Learning Outcomes

Erbyn diwedd y sesiwn dylai hyfforddeion allu:

  • Gwybod sut y dylid defnyddio SharePoint a OneDrive for Business yn Met Caerdydd.
  • Gwybod manteision defnyddio SharePoint/OneDrive i storio dogfennau.
  • Chwilio SharePoint ac OneDrive for Business yn effeithlon.
  • Defnyddio OneDrive for Business i gyrchu, storio a rheoli dogfennau personol o unrhyw le.
  • Defnyddio safleoedd tîm i gyrchu, storio a  rheoli dogfennau a rennir a chydweithio â chydweithwyr.
  • Sylweddoli pa bryd y mae rhannu trwy OneDrive for Business yn briodol.
  • Defnyddio nodweddion llyfrgell dogfennau, megis cydweithredu amser real, hanes fersiynau, rhybuddion a biniau ailgylchu i wella'r ffordd y rheolir dogfennau.