Mae Microsoft Teams yn cyfuno galwadau sgwrsio, fideo a sain, cyfarfodydd, nodiadau a ffeiliau yn y gweithle. Mae'r gwasanaeth yn integreiddio llawer o gymwysiadau Office 365, fel SharePoint Online, Planner a Stream, ac yn eu rhoi mewn un lleoliad hawdd ei gyrraedd.
Mae hefyd yn offeryn gwych i'w ddefnyddio pan fyddwch chi'n Gweithio o Gartref
Darganfyddwch isod sut y gallwch ddefnyddio Teams ac Office 365 i wella cyfathrebu a chydweithio. Gall holl fyfyrwyr a staff Met Caerdydd ymuno â Teams neu hyd yn oed sefydlu eu tîm eu hunain.
Gweminarau Microsoft Teams -
Mae cyfres o weminarau
ar ddefnyddio Teams ar gyfer gweithio o bell ac addysgu o bell wedi'u hamserlennu ar gyfer diwedd Tymor y Gwanwyn 2020.
Mwy o fanylion a chofrestru
Prydi ddefnyddio Teams
Rydym yn gwerthfawrogi bod llawer o wahanol offer cyfathrebu a llwyfannau storio ar gael i staff a myfyrwyr Met Caerdydd.
Cymerwch gip ar y Cyfathrebu a Chydweithio ym Met Caerdydd i gael cyngor ar offer cyfathrebu a storio craidd.
Pa ddyfeisiau i'w defnyddio gyda Teams?
Gallwch ddefnyddio Teams gyda Chyfrifiaduron Windows & Apple, yn ogystal â dyfeisiau Android ac IOS. Fe gewch chi'r profiad gorau pan fydd gwe-gamera a meicroffon yn eich dyfais ond gall Teams ddarparu llawer o ymarferoldeb defnyddiol hebddyn nhw o hyd.
Sut i gael mynediad i Teams
Lawr lwythwch yr Ap Teams ar gyfer eich dyfais i gael y profiad gorau. Gallwch hefyd fewngofnodi i mewn i Teams ar y we
Defnyddio Teams
Mae gan Microsoft ganllawiau gwych i gael y gorau o Teams ond Os nad ydych wedi ei ddefnyddio o'r blaen byddem yn awgrymu dechrau gyda'r Demo Rhyngweithiol
Mae'r Demo Rhyngweithiol yn ymdrin â rhai o'r nodweddion a ddefnyddir amlaf mewn Teams ac mae'r fideos byr isod yn darparu mwy o wybodaeth i'ch cael chi ar waith yn gyflym gyda Teams.
Ydi’n well gennych PDF? Mae Microsoft wedi ysgrifennu canllaw Cychwyn Cyflym
i'ch rhoi ar ben ffordd
Ewch i
https://support.office.com/en-us/office-training-center/teams-tips i gael awgrymiadau a thriciau mwy defnyddiol i'w defnyddio gyda Teams.