Mae Met Caerdydd yn cynnig llawer o opsiynau ar gyfer prynu meddalwedd a chaledwedd.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy gysylltu â'r Ddesg Gymorth TG.
Gallwch gysylltu â ni trwy'r canlynol:
Ffôn: x7000 (02920 41 7000)
E-bost: ithelpdesk@cardiffmet.ac.uk
Beth yw Hawlfraint?
Mae hawlfraint yn hawl eiddo deallusol sy'n bodoli'n awtomatig cyn gynted ag y bydd gwaith yn cael ei greu (h.y. nid oes angen i chi wneud cais am hawlfraint). Mae cyfraith hawlfraint wedi’i llunio er mwyn amddiffyn hawliau awduron, artistiaid, cerddorion, ffotograffwyr, cyhoeddwyr a chrewyr eraill.
Efallai y bydd angen i unigolion sydd am atgynhyrchu gwaith gwreiddiol eraill ofyn am ganiatâd i wneud hynny. Mae Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau, 1988 (CPDA) yn diffinio'r hyn y gallwn ac na allwn ei wneud. Hanfod y ddeddf yw amddiffyn buddiannau masnachol.
Diogelir y mathau canlynol o ddeunydd gan hawlfraint:
• Gweithiau llenyddol (print ac electronig)
• Gweithiau cerddorol
• Gweithiau artistig (diagramau, lluniau, ffotograffau)
• Recordiadau sain
• Ffilmiau, DVDs, fideos
• Darllediadau radio a theledu
• Trefniant teipograffyddol argraffiadau cyhoeddedig. Mae'r gweithgareddau canlynol yn gyfyngedig o dan hawlfraint
• Copïo
• Cyhoeddi copïau i'r cyhoedd, eu rhentu neu eu benthyca
• Perfformio, dangos neu chwarae’n gyhoeddus
• Darlledu
• Addasu neu newid gwaith
• Mewngludo, dosbarthu neu gaffael copïau sy'n torri hawlfraint
Nid yw cyfraith hawlfraint yn amddiffyn syniadau ar gyfer gwaith, dyma lle mae'n aml yn cael ei gymysgu â meysydd eraill o eiddo deallusol.
Canllawiau i ddefnyddwyr â nam ar eu golwg
Mae Deddf Hawlfraint (Pobl â Nam ar eu Golwg) 2002, yn caniatáu ar gyfer gwneud copïau mewn fformat hygyrch ar gyfer pobl â nam ar eu golwg, mae gwefan RNIB yn rhoi mwy o fanylion.
Pwy sy'n berchen ar hawlfraint?
Perchennog hawlfraint fel arfer yw'r person a greodd y deunydd ond mae yna eithriadau:
1. Os yw unigolyn yn creu deunydd o dan delerau ei gyflogaeth, yna'r cyflogwr sydd â'r hawlfraint fel rheol.
2. Trwy gyflwyno deunydd i'w gyhoeddi, mae awdur yn aml yn llofnodi hawlfraint i gyhoeddwr y llyfr neu'r cyfnodolyn.
Y Ddesg Gymorth TG yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw fater neu ymholiad sy'n gysylltiedig â TG. Rydym yn darparu cefnogaeth uniongyrchol a chyngor TG cyffredinol i fyfyrwyr a staff ledled y Brifysgol.
Ein nod yw datrys eich ymholiad cyn gynted â phosibl trwy naill ai gysylltu o bell â'ch peiriant i ddatrys y mater, gan roi'r wybodaeth berthnasol i chi sydd ei hangen neu drosglwyddo'r alwad i un o'n Cynghorwyr TG a fydd yn ymweld â chi'n uniongyrchol.
Mae pob galwad yn cael ei rheoli o fewn ein system Desg Wasanaeth a byddant yn cael eu blaenoriaethu yn ôl natur y mater.
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma
Amcanion Diogelwch TG yn Met Caerdydd yw cynnal argaeledd gwasanaethau TG, diogelu cyfrinachedd a chywirdeb adnoddau gwybodaeth a sicrhau bod y defnydd o gyfrifiaduron yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol.
Mae rhan bwysig o hyn yn gysylltiedig â'r mesurau a roddwyd ar waith gan y Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth i amddiffyn adnoddau gwybodaeth. Mae llawer o'r rhain yn digwydd yn y cefndir felly efallai nad fyddwch chi’n ymwybodol eu bod nhw'n digwydd.
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma
Mae argraffu symudol ar gael ar y campws. Atodwch y ddogfen yr ydych am ei hargraffu i'ch cyfrif E-bost Met Caerdydd trwy agor neges newydd ac atodi’r ffeil.
Anfonwch ef i colourprint@cardiffmet.ac.uk i gael y printiau rydych chi eu heisiau mewn lliw.
Anfonwch ef i monoprint@cardiffmet.ac.uk i gael printiau du a gwyn.
Ewch i um o'r dyfeisiau argraffu ar gyfer myfyrwyr er mwyn cael gafael ar eich gwaith yn y ffordd arferol. Gallwch hefyd anfon mwy nag un atodiad gyhyd â bod maint yr e-bost yn parhau i fod yn llai na 10Mb.
Sylwch mai dim ond yr atodiad fydd yn argraffu - nid yr e-bost ei hun!
Gallwch newid eich cyfrinair Met Caerdydd drwy’r wefan Rheoli Cyfrinair Hunanwasanaeth. Cliciwch ar y ddolen isod:
https://itss.cardiffmet.ac.uk/password/
Os ydych chi'n cael trafferth mynd i’r wefan Rheoli Cyfrinair Hunanwasanaeth, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth TG ar 02920 41 7000 (est. 7000) neu drwy e-bost:
ithelpdesk@cardiffmet.ac.uk