Mae’r cwrs hwn yn edrych ar sut y gall staff gyrchu a chreu adroddiadau ar ddata corfforaethol Met Caerdydd gan ddefnyddio’r offeryn deallusrwydd busnes, Business Objects.
Diben y cwrs yw i ddefnyddwyr ddysgu sut i ddefnyddio Business Intelligence Launch Pad Business Objects i gyrchu adroddiadau a’r offeryn adrodd Web Intelligence i greu ac addasu adroddiadau. Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn teimlo’n hyderus o ran hanfodion Business Objects a byddwch yn gallu arbrofi ymhellach â’r galluoedd adrodd.
Cofrestru
Mae’r cwrs yn cynnwys dwy sesiwn hyfforddi. Cofrestrwch ar gyfer un o bob sesiwn isod:
Cynhelir y sesiynau drwy gyfarfod Microsoft Teams. Anfonir dolen (URL) i’r cyfarfod a chyfarwyddiadau ymuno ar ôl archebu lle ar sesiwn.