Mae ymchwil a'i sgiliau cysylltiedig yn bwysig ar bob lefel o astudio mewn addysg uwch. P'un ai eich bod yn ysgrifennu traethawd blwyddyn gyntaf ar hanfodion Gwyddorau Biofeddygol neu draethawd PhD ar dwristiaeth arbenigol yng Ngogledd Cymru, bydd ymchwil yn elfen hanfodol o'ch gwaith. Yn ogystal, fel dysgwyr annibynnol, disgwylir i chi wneud ymchwil wrth i chi baratoi ar gyfer darlithoedd, seminarau, tiwtorialau neu weithdai.
Mae datblygu arferion ymchwil effeithiol yn dechrau gyda chael trosolwg o'r adnoddau sydd ar gael i chi. Mae ein llyfrgellwyr yn darparu gwybodaeth fanwl am yr adnoddau sy'n berthnasol i'ch pwnc yn y canllawiau pwnc. Wedi'u trefnu gan yr Ysgolion, mae'r canllawiau hyn yn cynnwys dolenni i brif deitlau'r cyfnodolion sy'n gysylltiedig â'ch disgyblaeth, adnoddau defnyddiol a'u lleoliad yn y llyfrgell o lyfrau yr ydych yn debygol o'i defnyddio. Mae hefyd yn bwysig nodi strategaeth addas ar gyfer rheoli'r wybodaeth fyddwch chi’n ei chanfod; fe welwch chi lawer o ddeunydd cyhoeddedig sy'n berthnasol i'ch pwnc ymchwil, ac un o'r sgiliau y bydd angen i chi ei datblygu yw gallu adnabod ffynonellau hanfodol.
Bydd y sgiliau sy'n gysylltiedig ag ymchwil, megis y gallu i reoli gwybodaeth, yn ddefnyddiol ynddynt eu hunain ar ôl i chi orffen eich rhaglen astudio. Mae ysgrifennu adroddiadau, er enghraifft, tasg sy'n gofyn am y gallu i ymchwilio, yn elfen bwysig i lawer o rolau swydd. Ond bydd y sgiliau hyn hefyd yn arwain at ddatblygu galluoedd datrys problemau a dadansoddi, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu cryf.