Fel Arbenigwyr Sgiliau Academaidd, ein rôl yw gwella cwricwla ym Met Caerdydd drwy ddarparu gweithgareddau addysgu a dysgu sgiliau academaidd arbenigol. Ein nod yw darparu addysgu arloesol, heriol ac adnoddau cysylltiedig sy'n fwriadol uchelgeisiol. Yn wir, mae'r elfennau hyn i gyd yn sail i'n holl weithgareddau:

Er ein bod yn rhoi cryn dipyn o gymorth ymarferol i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau hyn, caiff ein gwaith ei siapio gan gyd-destun ehangach, gan ei fod yn canolbwyntio ar newid ymddygiad a datblygu'r hyn a ystyriwn yn lythrennedd academaidd.
Caiff ein holl weithgareddau addysgu a dysgu eu haddasu fel eu bod mewn cyd-destun a’u bod yn cyd-fynd â gofynion asesu. Yn ogystal, mae'n ofynnol i fyfyrwyr gymryd rhan weithredol yn y sesiynau; defnyddir dysgu drwy brofiad er mwyn ymgysylltu’n fwy effeithiol â myfyrwyr a hyrwyddo dysgu dwfn.
Mae ein haddysgu’n cwmpasu nifer o bynciau, gan gynnwys:
Ysgrifennu mewn arddull academaidd
Strwythuro traethawd
Llunio aseiniad neu adroddiad
Datblygu eich proses ysgrifennu
Cyfeirio'n gywir
Bod yn feirniadol
Datblygu dadleuon cryfach
Camgymeriadau ysgrifennu cyffredin a gwella gramadeg Saesneg
Technegau adolygu ar gyfer arholiadau
Gwneud nodiadau effeithiol
Paratoi cyflwyniadau
Gwella sgiliau prawfddarllen
Llunio cwestiynau ymchwil
Byddwn yn barod iawn i gwrdd â chi a thrafod unrhyw agwedd ar ein gwaith gyda chi os ydych yn ystyried defnyddio ein gwasanaethau. Cysylltwch â ni ar un o'r cyfeiriadau e-bost canlynol:
Dr Chris Dennis - ckdennis@cardiffmet.ac.uk
Andrew Morgans - amorgans@cardiffmet.ac.uk
Sgiliau Academaidd - academicskills@cardiffmet.ac.uk
Cofiwch, gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter:
@CardiffMet_AST